Mae'r cyfleuster chwilio hwn yn eich galluogi i gael hyd i fanylion cyswllt arbenigwyr ar rywogaethau lleol. Cyfeirir yn aml at y rhain fel Is-Gofnodwyr Sirol (IGS) gan eu bod yn rhoi sylw i ardal benodol a elwir yn Is-Sir (gweler y map manwl). Gellir chwilio yn ôl Grwp o Rywogaethau neu Is-Sir. Bydd y ddau ddull yn cynhyrchu rhestr o arbenigwyr lleol ynghyd â mapiau wedi'u harlliwio'n dangos pa ardal ddaearyddol maent yn berthnasol iddi. Sylwer nad oes gan bob grwp o rywogaeth arbenigwr lleol, gall IGS ofalu am fwy nag un Is-Sir yn aml a chofnodir rhai grwpiau o rywogaethau oddi mewn i hen siroedd Gwynedd a Chlwyd.
Unwaith rydych wedi cael hyd i arbenigwr lleol, gallwch anfon e-bost ato drwy glicio ar yr eicon .
Os yw eich data am fwy nag un Grwp Rhywogaeth neu Is-Sir neu os nad oes gan y Cofnodwr Sirol priodol gyfeiriad e-bost, e-bostiwch eich data atom ni a byddwn yn ei anfon ymlaen at y person priodol.
Hefyd mae gennym fanylion cyswllt ar gyfer arbenigwyr ar sawl grwp rhywogaeth arall, felly cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os na allwch gael hyd i'r manylion rydych eu hangen.
Hefyd gallwch ddefnyddio gwefan y Ganolfan Cofnodion Biolegol i ganfod manylion am Gynlluniau Cofnodi Cenedlaethol sy'n delio â grwpiau rhywogaeth arbenigol