Cartref Arrow Newyddion

 

News Icon Newyddion

Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf gan Cofnod a llawer o fudiadau eraill

 

Gweld yr Holl Eitemau Newyddion

Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn cael cofnodion diddorol am ddau bryf copyn gardd anarferol yn Cofnod.

Pryf copyn cranc mawr yw Misumena vatia sy'n eistedd ar flodau ac yn dal gwenyn a gloÿnnod byw. Os yw'r pryf copyn benywaidd yn eistedd ar flodyn gwyn mae ei lliw yn parhau i fod yn wyn, fodd bynnag, gall newid i felyn llachar os bydd yn symud ymlaen i flodyn melyn!

Cafodd Nigma puella, y Pryf Copyn Calon, ei gofnodi yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf, ond mae'n rhaid bod mwy allan yna! Pryf copyn gwyn, bach (3 mm) ydi hwn gyda marciau pinc a gwyrdd. Mae'n eistedd ar ddail gardd.

Cyflwynwch eich cofnodion o'r ddwy rywogaeth yma, gyda ffotograffau, i Cofnod gan ddefnyddio'r ORS neu Ap LERC Cymru a'n helpu ni i fapio eu dosbarthiad.

Tudalen 12 o 72
Cofnod Event Icon = Digwyddiad a drefnir gan Cofnod