Cartref Arrow Newyddion

 

News Icon Newyddion

Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf gan Cofnod a llawer o fudiadau eraill

 

Gweld yr Holl Eitemau Newyddion

Manylion Cyswllt

HouseCofnod
Intec, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FG
EmailcontactusAnti-spamcofnod.org.uk
Telephone01248 847456
Internethttp://www.cofnod.org.uk

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cronfa ddata wedi cyrraedd 5 miliwn o gofnodion yn ddiweddar. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ac yn gyfle i ddiolch i'r miloedd o bobl sydd wedi cyfrannu at hyn yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.

Mae ein cyfanswm newydd o 5,089,874 wedi digwydd yn llawer cyflymach na'r disgwyl, gan gymryd llai na 12 mis i gronni'r miliwn diwethaf o gofnodion. O gymharu hyn â'r miliwn cyntaf, a gymerodd bron i 4 blynedd, mae cyflymder y newid wedi cynyddu yn bendant. Mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod wedi ein cysylltu'n well â lle mae'r data'n cael eu storio a'r fyddin o arbenigwyr a chofnodwyr sy'n casglu neu'n rheoli'r data. Mae hyn hefyd oherwydd bod cyfanswm cynyddol o ddata’n cael ei gadw'n ddigidol, gyda mwy a mwy yn cael eu cyflwyno ar-lein. Rhaid rhoi clod hefyd i’n Tîm Rheoli Data, (Aisling, Catharine a Jen), gan eu bod wedi addasu i gyflymder y newid drwy ddatblygu dulliau effeithlon o dderbyn, prosesu a rheoli'r data. Ni fyddai’r cronni dramatig hwn ar gofnodion wedi bod yn bosibl heb i’r rhai sy’n caru bywyd gwyllt barhau i gyflwyno eu cofnodion. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nid yw hyn wedi bod yn hawdd bob amser, a bydd yn ddiddorol gweld ymhen blynyddoedd i ddod a fyddwn yn canfod tuedd COVID yn y data, fel y gwnaethom yn 2001 gyda Chlwy’r Traed a'r Genau.

Roedd yn anodd dewis ychydig o straeon i ddangos y newid yn ein cronfa ddata, ond daeth tair i'r meddwl ar unwaith.

Tua 5 mlynedd yn ôl rydym yn cofio’n glir edrych ar y niferoedd a meddwl tybed pam roedd cyn lleied o ddata am adar, llai na 10%, yn y gronfa ddata. Diolch i gyflwyno ar-lein drwy Birdtrack BTO, ymdrech gofnodi enfawr i greu Atlas Adar Magu Gogledd Cymru a’r gwaith casglu parhaus sydd wedi’i wneud gan Gofnodwyr Adar Sirol, heddiw mae data adar yn cyfrif am fwy na 40% o’r gronfa ddata, sydd fwy na thebyg fel dylai fod o ystyried yr ymdrech a wnaed i gofnodi'r rhywogaethau hyn.

Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd peth amheuaeth am gofnod am Fele a gyflwynwyd. Ar y pryd roedd llawer o gofnodwyr yn gwneud ymdrech fawr i brofi ei bod yn bodoli yng Ngogledd Cymru. Yn dilyn ailgyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru, buan y gwelsom gynnydd yn y nifer oedd yn cael eu cofnodi ac roeddem wrth ein bodd ym mis Mawrth 2016 o gael y cofnod dibynadwy cyntaf o luniau camera llwybr. Ers hynny mae nifer y cofnodion, yn enwedig gyda thystiolaeth ffotograffig neu fideo, wedi cynyddu. Er bod nifer y cofnodion yn y gronfa ddata yn parhau i fod yn llai na 150, dangosodd yr un mwyaf diweddar a gyflwynwyd ym mis Mehefin luniau fideo gwych o Fele yn un o'i chadarnleoedd, gan ddangos bod y rhywogaeth yn dechrau sefydlu o ddifrif yng Ngogledd Cymru.

Rydym yn gwybod ers peth amser bod cynrychiolaeth isel o infertebrata yn ein cronfa ddata, a chofnodion am wyfynod yw’r mwyafrif helaeth. Yn 2020 aethom ati i ddod o hyd i fwy o ddata am infertebrata, fel bod posib eu defnyddio i ganfod casgliadau o infertebrata ar safleoedd gwarchodedig. Drwy ymdrech nodedig, llwyddwyd i gael mynediad at lawer iawn o ddata am infertebrata, gan olygu bod mwy o gofnodion am infertebrata nag o adar yn y gronfa ddata erbyn diwedd 2020. Dangosodd hyn i ni fod llawer o ddata o hyd nad oeddem yn cael mynediad atynt, ond gydag ymdrech ar y cyd roedd pobl yn hapus i rannu data newydd gyda ni.

Mae angen i Cofnod ymateb i'r nifer fawr o ddata sy'n cael eu cynhyrchu a'u storio'n ddigidol, neu ffyrdd newydd o greu cofnodion, fel camerâu llwybr neu eDNA. Mae angen i ni hefyd chwilio am ddata mwy astrus i sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu'r gronfa ddata fwyaf cynhwysfawr o rywogaethau yng Ngogledd Cymru. Diolch i bob un ohonoch chi sy'n parhau i gyfrannu cofnodion a thybed ydi 10 miliwn o gofnodion yn darged rhy uchelgeisiol ar gyfer ein carreg filltir arwyddocaol nesaf.

Tudalen 11 o 72
Cofnod Event Icon = Digwyddiad a drefnir gan Cofnod