Y Data Sydd Gennym
Mae Metadata'n disgrifio'r data sydd gennym. Rydym yn cadw Metadata manwl am y Cyfresi Data unigol a gyflenwir i ni, yn cynnwys y math o rywogaethau a gynhwysir, nifer y cofnodion a gynhwysir, pwy sy'n berchen ar y data a ble a phryd y casglwyd y cofnodion.
Sylwer ein bod yn defnyddio cyfyngiadau safonol gyda phob cofnod am rywogaethau sensitif penodol. Rhoddir manylion yn ein polisi am Ffynonellu, Rheoli a Defnyddio Data. Os yw cyflenwr data wedi gofyn am i gyfyngiadau ychwanegol gael eu defnyddio gyda chyfres ddata, dynodir hyn drwy roi nesaf at y gyfres ddata. Os ydych yn ansicr ynghylch pa lefel o fynediad sydd gennych i gyfres ddata, yna cysylltwch â ni am eglurhad os gwelwch yn dda.
Dewiswch un o'r botymau Ystadegau am ddarlun cyffredinol o'r data sydd gennym.
Sylwer mai dim ond yn Saesneg mae'r manylion y Metadata yn ymddangos.