Dim ond yn Saesneg mae'r testun yma ar gael ar hyn o bryd
Join the BSBI's Wildflower Hunt to help learn more about the wild plants that inhabit our gardens and local environment.
Croeso i ail Gylchlythyr Cofnod, sy’n llawn digonedd o awgrymiadau ar gyfer cofnodi. Gyda chyfyngiadau Covid-19 yn eu lle, mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau 2020 wedi cael eu canslo neu eu haildrefnu, gyda chofnodi wedi’i gyfyngu i’ch cartref a llwybrau cerdded lleol. Fodd bynnag, mae llond gwlad o rywogaethau gardd i gadw llygad amdanyn nhw!
Gan fod llawer ohonom ni’n gweithio o gartref erbyn hyn ac am y dyfodol rhagweladwy, mae’n gyfle euraid i gofnodi’r rhywogaethau rydych chi’n eu gweld yn ystod eich amser cinio neu ar daith gerdded leol. Mae pedair LERC Cymru wedi ymuno i gynnig Cymdogion Natur.
Rydym yn gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymuno yn yr hwyl ac yn picio allan i weld beth sydd yn eich ardal leol, a rhannu eich lluniau ar Twitter a/neu Facebook gan ddefnyddio’r tag #CymdogionNatur
Hefyd gallwch anfon eich cofnodion yn uniongyrchol i’ch LERC (ORS yn achos Cofnod) neu ddefnyddio Ap Cofnodi LERC Cymru ar eich ffôn clyfar.
Partneriaeth Natur Lleol
Hyrwyddo adferiad bywyd gwllt ar Ynys Mon.
Dyddiad cau 20fed Mis Mawrth 2020.
Bob mis fe fyddwn ni’n darparu mapiau a gwybodaeth am fonadau sydd wedi’u cofnodi’n wael yng Ngogledd Cymru er mwyn ceisio annog cofnodwyr i godi allan i leoliadau heb lawer o gofnodion, os o gwbl. Ewch i lyfrgell y wefan i gael mynediad at Monad y Misoedd blaenorol.
Cynorthwyo i reoli a chynnal gwarchodfeydd natur a llwybrau cerdded a reolir gan Ofodau Agored a’u hyrwyddo i’r cyhoedd.
Dyddiad cau 13 Mawrth 2020.
Crynodeb o’r cynnwys y mis hwn:
Arwyddion y gwanwyn
Ceryntoedd peryglus
Slefrod pigog
Tywydd mawr
Llifogydd
Patrymau prenaidd
Ystlumod fel ysglyfaeth